Mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae yn diogelu pobl hŷn rhag cael eu cam-drin

English

 

Mae grŵp gweithredu* yn gweithio i atal cam-drin pobl hŷn yn annog y cyhoedd i roi gwybod am unrhyw bryderon sydd ganddynt y gallai person hŷn fod mewn perygl neu eu bod yn cael eu cam-drin.

O dan y mesurau cyfyngiadau symud presennol, mae llawer o’r cyfleoedd arferol i nodi camdriniaeth – drwy gyswllt gyda gweithwyr proffesiynol mewn apwyntiadau arferol, er enghraifft – wedi’u colli, sy’n golygu y gallai pobl hŷn gael eu hamddifadu o’r help a’r cymorth a allai achub eu bywydau.

Er gwaethaf amhariad Covid-19, mae timau diogelu a gwasanaethau cymorth yn parhau i weithio, yn ymchwilio i bryderon ac yn sicrhau bod pobl yn derbyn y cymorth sydd ei angen arnynt er mwyn iddynt fod yn ddiogel.

Er bod ein cyswllt ag eraill wedi’i gyfyngu yn awr, mae yna arwyddion y gall pob un ohonom fod yn wyliadwrus ohonynt, a allai ddangos bod rhywun yn profi camdriniaeth.  Mae’r rhain yn cynnwys arwyddion corfforol, er enghraifft briwiau neu anafiadau eraill anesboniadwy, neu newidiadau i ymddygiad, megis bod yn fwy tawedog, ddim yn cael gadael y tŷ (hyd yn oed i wneud ymarfer corff dyddiol), llai o gyswllt gyda theulu neu ffrindiau, neu newidiadau i’r ffordd mae rhywun yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol.

Dylai unrhyw un sydd â phryderon am berson hŷn gysylltu â thîm diogelu gwasanaethau cymdeithasol eu cyngor lleol neu eu heddlu lleol ar 101 (mewn argyfwng ffoniwch 999).

Mae’r grŵp hefyd yn annog gweithwyr proffesiynol a allai fod yn dod i gysylltiad â phobl hŷn drwy eu gwaith gwblhau cwrs hyfforddiant cam-drin domestig newydd ar-lein sydd wedi’i ddatblygu gan Brosiect Dewis Prifysgol Aberystwyth**. 

Mae’r hyfforddiant yn cwmpasu nifer o feysydd, gan gynnwys y ffyrdd y gallai pobl hŷn fod yn profi cam-drin domestig, y rhwystrau a allai rwystro pobl rhag gofyn am help, effaith cam-drin ar iechyd a lles meddyliol pobl, a’r ffynonellau o help a chymorth sydd ar gael.

Mae’r hyfforddiant hefyd yn cynnwys Pecyn Offer Cynllunio Diogelwch a ddatblygwyd ar sail profiadau byw mwy na 100 o ddioddefwyr-oroeswyr sydd wedi ymgysylltu â’r Fenter Dewis.

Dywedodd Sarah Wydall, sy’n arwain y Fenter Dewis:

“Ers i’r ynysu ddechrau, rydym wedi gweld cynnydd yn nifer yr ymarferwyr sy’n cysylltu â ni i gael cyngor, yn arbennig i gael arweiniad ar gynllunio diogelwch yn yr amgylchiadau newydd hyn.  Gwyddom o’n profiad y gall ynysu gynyddu difrifoldeb camdriniaeth a chyfyngu cyfleoedd pobl i ofyn am help a chymorth.  Drwy gynnig yr hyfforddiant ar-lein hwn a chopïau o’n canllaw i ymarferwyr, rydym yn gallu rhoi’r adnoddau sydd eu hangen ar staff y rheng flaen i ddarparu’r ymateb gorau posibl i ddioddefwyr-oroeswyr hŷn cam-drin domestig.”

Dywedodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Heléna Herklots CBE: 

“Mae’n hollbwysig bod y rhai sydd mewn perygl neu sydd yn profi camdriniaeth yn cael eu diogelu a’u bod yn gallu cael yr help a’r cymorth sydd ei angen arnynt.  Mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae yn diogelu pobl hŷn a rhoi gwybod am unrhyw bryderon sydd ganddynt a allai achub eu bywydau. 

“Felly byddwn yn annog unrhyw un sydd â phryderon y gallai person hŷn maent yn eu hadnabod fod mewn perygl neu sydd yn profi camdriniaeth i gysylltu â thîm diogelu eu cyngor neu’r heddlu.

“Felly byddwn yn annog gweithwyr allweddol ar hyd a lled Cymru sy’n dod i gysylltiad â phobl hŷn i gwblhau’r hyfforddiant Dewis, oherwydd bydd hyn yn rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen arnynt ar sut i adnabod camdriniaeth a lle y gallant gael help a chymorth hollbwysig i bobl hŷn yn ystod y cyfnod anodd hwn.

 



Ar gyfer ymholiadau’r cyfryngau, cysylltwch â Richard Jones ar 029 2044 5040 / 07515 288271 neu e-bost richard.jones@olderpeoplewales.com 

I gael gwybodaeth bellach am waith Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, ewch i https://www.olderpeoplewales.com/cy/Home.aspx 


Nodiadau i Olygyddion:

* – Mae’r grŵp gweithredu newydd yn cynnwys aelodau o’r sefydliadau canlynol:

Age Cymru 
CGGC
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru 
Cymorth i Ferched Cymru
Dewis 
Get Safe Online 
Gwarchod y Gymdogaeth
Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir
Heddlu De Cymru
Heddlu Dyfed Powys 
Heddlu Gogledd Cymru
Heddlu Gwent 
Hourglass Cymru (Action on Elder Abuse Cymru yn flaenorol) 
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Llywodraeth Cymru
Rhwydwaith Diogelu GIG Cymru
Safonau Masnach (cynrychiolydd Cymru)
Tîm Sgamiau Safonau Masnach Cenedlaethol
Uned Atal Trais Cymru
Y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol

**– Prosiect Dewis 

  • Mae Dewis yn fenter sy’n cael ei chynhyrchu ar y cyd sy’n cynnwys gwasanaeth pwrpasol a gynlluniwyd gan bobl hŷn ac astudiaeth ymchwil hydredol, sy’n cofnodi profiadau byw pobl hŷn sy’n gofyn am help a chyfiawnder.
  • Mae Dewis yn darparu gwasanaeth ymroddedig ‘teulu cyfan’ i ferched a dynion 60 oed a hŷn, sydd wedi profi cam-drin a thrais domestig gan bartner agos, cyn-bartner agos a/neu aelod(au) o’r teulu sy’n oedolyn.  Gan fabwysiadu dull cynhwysol, mae’r gwasanaeth hefyd yn cefnogi cleientiaid hŷn sy’n lesbiaid, hoyw, deurywiol, traws a queer neu sy’n cwestiynu (LGBTQ), ac achosion pan fydd cam-drin a thrais domestig a dementia yn cyd-fodoli.
  • Gan dynnu ar ganfyddiadau eu hymchwil blaenorol yn y Deyrnas Unedig, a ddatblygwyd gan bobl hŷn ochr yn ochr ag amrediad o weithwyr proffesiynol dros gyfnod o bum mis, mae elfen gwasanaeth y fenter yn ceisio grymuso dioddefwyr-oroeswyr hŷn i wneud dewisiadau gwybodus ynglŷn â’u hopsiynau cyfiawnder, boed y rhain yn rhai sifil, troseddol a/neu adferol.  Mae’r gwaith cynhyrchu ar y cyd wedi hwyluso cynllun sy’n ymatebol i anghenion y gymuned ac sy’n cyd-fynd â’r ddarpariaeth gwasanaeth bresennol.
  • Mae’r fenter yn cael ei datblygu er mwyn i’r tîm gwasanaeth allu darparu cymorth dwys am gyfnod o hyd at 18 mis, i helpu cleientiaid i ddod dros eu profiadau ymosodol a hyrwyddo eu llesiant.  Felly, mae ymateb y gwasanaeth yn cynnwys ymyrraeth a chymorth dwys hirdymor sy’n integreiddio dulliau atal ac adfer ar gyfer pobl hŷn.  Mae’r ymateb gwasanaeth yn gweithio gyda chleientiaid hŷn i wella eu hymdeimlad o lesiant yng nghyd-destun cam-drin a thrais domestig.
  • Gellir cael mynediad at hyfforddiant Dewis drwy anfon e-bost i choice@aber.ac.uk