Mae sefydliadau sy’n gweithio i ddiogelu ac i amddiffyn pobl sy’n cael eu cam-drin neu sy’n dioddef troseddau wedi dod at ei gilydd i sicrhau bod pobl hŷn yn gallu cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i'w cadw’n ddiogel ac wedi’u hamddiffyn yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Ac mae ganddynt neges syml i bobl hŷn yng Nghymru a allai fod mewn perygl: Dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Rydyn ni yma i chi a gallwn eich helpu a’ch cefnogi.
Mae aelodau’r grŵp newydd1 yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau bod pobl hŷn sydd mewn perygl o niwed yn cael yr wybodaeth sydd ei hangen arnynt ynghylch lle i droi am gymorth, a'u bod yn gwybod bod gwasanaethau cymorth yn dal ar gael o hyd er gwaethaf y tarfu presennol.
Maent hefyd yn gweithio i godi ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd o’r rhan y gallwn i gyd ei chwarae o ran helpu i amddiffyn pobl hŷn.
Mae’r grŵp wedi dod at ei gilydd oherwydd bod y coronafeirws a’r cyfyngiadau symud wedi golygu bod rhai pobl hŷn yng Nghymru mewn mwy o beryg o gam-drin domestig (neu ffurfiau eraill o gam-drin), esgeulustod neu gael eu targedu gan droseddwyr.
Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Er ein bod wedi gweld y gorau o’n cymunedau dros yr wythnosau diwethaf, gyda chymaint o waith yn cael ei wneud i helpu ac i gefnogi pobl hŷn, mae’n hanfodol ein bod yn cydnabod bod yr wythnosau diwethaf wedi bod yn eithriadol o anodd i nifer o bobl. Bydd llawer o bobl hŷn wedi teimlo’n ofnus ac ar eu pen eu hunain.
“Dyna pam rydyn ni wedi dod at ein gilydd – i roi gwybod i bobl hŷn nad ydyn nhw ar eu pen eu hunain, ein bod ni yma a gallwn ni eu helpu a’u cefnogi.”
Dywedodd Cyfarwyddwr Hourglass Cymru (Action on Elder Abuse Cymru o’r blaen), Rachael Nicholson:
“Mae ein hymchwil2 wedi dangos rhai agweddau brawychus tuag at bobl hŷn a chredoau ynghylch beth sydd yn gam-drin, rhywbeth a ddylai beri pryder i ni mewn cyfnod pan allai cyfyngiadau symud parhaus olygu bod dioddefwyr hŷn yn cael eu dal mewn amgylchedd lle mae tensiynau’n gwaethygu ac mae cam-drin yn dod yn fwy tebygol, a phan fydd diffyg cyswllt cymdeithasol arferol yn cynyddu’r risg o esgeulustod.
“Mae yna bobl hŷn sy’n byw ar eu pen eu hunain sy’n gorfod hunanynysu, sy’n golygu eu bod yn fwy unig, yn ynysu’n gymdeithasol a gallai eu llesiant meddwl ddioddef. Mae’r ffactorau hyn yn cynyddu'r cyfleoedd o ddioddef niwed, cam-drin neu ecsbloetio yn sylweddol, yn ogystal â’r effeithiau negyddol ar iechyd. Rydyn ni’n poeni bod pobl hŷn yn ei chael hi’n anodd cael gafael ar gefnogaeth, diogelwch a gwasanaethau allweddol eraill neu nad ydynt yn sylweddoli bod cymorth ar gael iddynt.
“Mae llinell gymorth Hourglass Cymru ar gael i unrhyw un sy’n poeni am y risg uwch o gam-drin ac esgeulustod i bobl hŷn yn ystod y cyfnod heriol hwn, boed y cam-drin hwnnw’n cael ei wneud gan anwyliaid, gweithwyr proffesiynol neu bobl ddieithr.”
Dywedodd llefarydd ar ran Heddluoedd Cymru:
“Dros y cyfnod anodd hwn rydyn ni’n cydnabod ac yn deall y gallai pobl hŷn ac agored i niwed deimlo eu bod ar eu pen eu hunain, teimlo ofn a theimlo eu bod allan o’n cyrraedd ni. Mae ein swyddogion wedi bod allan yn ein cymunedau yn gwneud eu gorau glas i sicrhau bod pawb yn teimlo’n ddiogel.
“Yn anffodus, hyd yn oed ar adegau fel hyn, bydd sgamwyr a throseddwyr eraill yn manteisio ar ein trigolion mwyaf agored i niwed.
“Ein neges yw nad ydych chi ar eich pen eich hun. Gyda’n gilydd rydyn ni’n gweithio gyda’n partneriaid i sicrhau bod darpariaethau a mesurau ar waith i gefnogi ein cymuned gyfan.”
Drwy rwydweithiau helaeth ei aelodau, bydd y grŵp yn gallu cyrraedd miloedd o gysylltiadau mewn cymunedau ledled Cymru, gan sicrhau eu bod yn cael yr wybodaeth, y canllawiau a’r adnoddau diweddaraf am gadw pobl yn ddiogel a rhannu’r wybodaeth honno, ynghyd â gwybodaeth am y cymorth a’r gefnogaeth sydd ar gael, a fydd yn hanfodol wrth i ni symud ymlaen yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Os oes angen cymorth a chefnogaeth ar unrhyw bobl hŷn, neu os oes unrhyw un yn poeni y gallai person hŷn fod mewn perygl, mae croeso i chi gysylltu ag Hourglass Cymru (Action on Elder Abuse Cymru o’r blaen) ar 0808 808 8141 (i gael help y tu allan i oriau swyddfa, dylai pobl gysylltu â'r Llinell Gymorth Di-ofn Fyw 24 awr ar 0808 80 10 800). Os oes risg o niwed difrifol ar fin digwydd, dylid cysylltu â’r heddlu yn ddi-oed drwy ffonio 999. Mae’r heddlu’n dal i ymateb i alwadau brys. Os oes angen help ar rywun ond nad oes modd iddyn nhw ddweud hynny, dylen nhw ffonio 999 ac wedyn 55.
1 Mae’r sefydliadau canlynol yn aelodau o’r grŵp:
Age Cymru
CGGC
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
Cymorth i Ferched Cymru
Dewis Choice
Get Safe Online
Gwarchod y Gymdogaeth
Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir
Heddlu De Cymru
Heddlu Dyfed-Powys
Heddlu Gogledd Cymru
Heddlu Gwent
Hourglass Cymru (Action on Elder Abuse Cymru o’r blaen)
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Llywodraeth Cymru
Rhwydwaith Diogelu GIG Cymru
Safonau Masnach (cynrychiolydd Cymru)
Tîm Sgamiau Safonau Masnach Cenedlaethol
Uned Atal Trais Cymru Gyfan
Y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol
2 Roedd gwaith ymchwil arolwg a wnaed gan Hourglass yn gynnar yn 2020 wedi datgelu nad yw 1 o bob tri 3 (34%) o drigolion y DU yn credu bod ‘gweithred o drais domestig tuag at berson hŷn’ yn cyfrif fel cam-drin a dywedodd bron i hanner y rheini a holwyd nad ydy ‘peidio â rhoi sylw i anghenion person hŷn mewn modd amserol’ yn gyfystyr â cham-drin (49%).