What is abuse

Definitions/ Diffiniadau

 

The Abuse of Older People


A single or repeated act or lack of appropriate action, occurring within any relationship where there is an expectation of trust, which causes harm or distress to an older person.

 

Cam-drin pobl hŷn


Gweithred unigol neu wedi'i hailadrodd, neu ddiffyg gweithredu priodol, sy'n digwydd mewn unrhyw berthynas lle mae yna ddisgwyliad o ymddiriedaeth, sy'n achosi niwed neu drallod i berson hŷn.

 

Safer Ageing


Older people face physical and attitudinal barriers that create circumstances of actual or presumed age-related vulnerability – an environment which puts older adults at risk. Our campaign for safer ageing seeks to remove these barriers to empower older people to age securely and live free from abuse.

 

Heneiddio'n Ddiogel
Mae pobl hŷn yn wynebu rhwystrau corfforol ac agweddol sy'n creu amgylchiadau gwirioneddol neu dybiedig o fod yn agored i niwed yn gysylltiedig ag oedran – amgylchedd sy'n peryglu oedolion hŷn. Mae ein hymgyrch ar gyfer heneiddio'n ddiogel yn ceisio cael gwared ar y rhwystrau yma er mwyn grymuso pobl hŷn i heneiddio'n ddiogel a byw'n rhydd o gamdriniaeth.